Mae’r pecyn cydnawsedd hwn yn caniatáu mwy o’ch hoff apiau OpenCL™, OpenGL® a Vulkan® i redeg ar gyfrifiadur Windows 10 neu Windows 11 heb y gyrwyr caledwedd hyn wedi’u gosod yn ddiofyn. Os oes gyrrwr DirectX 12 wedi’i osod, bydd apiau a gefnogir yn rhedeg â chyflymu caledwedd i gael perfformiad gwell. Mae’r pecyn hwn yn cefnogi apiau sy’n defnyddio OpenCL fersiwn 3.0 a chynharach, OpenGL fersiwn 3.3 a chynharach, a Vulkan fersiwn 1.2 a chynharach. Mae’n bosib y bydd apiau OpenGL sy’n defnyddio fersiynau hyd at 4.6 yn gweithio hefyd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://aka.ms/clglcp-faq
Mae OpenCL a’r logo OpenCL yn nodau masnach Apple Inc. a ddefnyddir gyda chaniatâd Khronos. Mae manylion llawn y drwydded ar gael ar wefan Apple (https://developer.apple.com/softwarelicensing/opencl/).
Mae OpenGL® a’r logo hirgrwn yn nodau masnach neu’n nodau masnach cofrestredig Hewlett Packard Enterprise yn yr Unol Daleithiau a/neu wledydd eraill ledled y byd.
Mae Vulkan a’r logo Vulkan yn nodau masnach cofrestredig Khronos Group Inc.
Mae’r cynnyrch yn seiliedig ar Fanyleb Khronos a gyhoeddwyd, a disgwylir iddi basio Proses Gydymffurfio Khronos. Gellir gweld y statws cydymffurfio presennol yn www.khronos.org/conformance.