Ymuna ag Alto a ffrindiau wrth iddynt gychwyn ar antur oes.
Rasia i lawr llethrau alpaidd, dros dwyni gwyntog, trwy goedwigoedd hynafol ac adfeilion coll y ddau deitl hynod boblogaidd: Alto’s Adventure ac Alto’s Odyssey.
Ar hyd y ffordd, byddi'n cyflawni ôl-fflipiau mentrus, yn crensian dros bennau tai ac yn neidio dros hafnau anferth wrth i ti fynd ar daith i ddarganfod pa ddirgelion sydd i'w gweld y tu hwnt i'r gorwel.