Ydy amser yn mynd yn brin pan fyddwch yn ceisio darllen erthyglau neu wylio fideos ar-lein? Gyda'r Rhestr Ddarllen, gallwch olrhain a rheoli'r holl gynnwys rydych am edrych arno eto mewn dangosydd hardd. Gallwch rannu'r cynnwys i'ch rhestr oddi ar y we neu o apiau eraill a dychwelyd atynt yn hawdd pan fydd gennych fwy o amser. Beth bynnag rydych yn hoffi ei ddarllen neu ei wylio, mae'r ap hwn yn ei gwneud yn haws i gadw, canfod, a dychwelyd at y pethau rydych yn eu hoffi, gan restru'r cynnwys rydych wedi'i gadw mewn trefn gronolegol.